Cardiau Priodas

Casgliad Boglynnog

Casgliad Dylanwadau

Y Casgliad Dylanwadau

Ystod newydd sbon ac unigryw

Dyma gyflwyno ein casgliad newydd sef Dylanwadau . Bydd ein gwahoddiadau ar gerdyn unigol 12.5 cm. x 17.5 cm. Cewch ddewis gwahoddiad Cymraeg, Saesneg neu ddwyieithog, a'r olaf drwy argraffu ar ddwy ochr y cerdyn. Mae'r dyluniadau wedi'u dylanwadu gan Art Nouveau, Y Mudiad Celf a Chrefft, dyluniadau tecstiliau o Tseina, a Chlymau Celtaidd. Mae'r ystod brisiau'n adlewyrchu symlder y cardiau ac felly'n rhesymol iawn.

Bydd y testun bob tro yn unol â'ch dymuniadau personol; mae llawer o'r cardiau ar gael mewn dewis o liwiau. Argreffir pob cerdyn ar ar gerdyn gwyn llyfn o ansawdd da, a daw gydag amlen. Mae ein casgliad Dylanwadau yn unigryw i Cariad Cards. Gobeithiwn y bydd ein dyluniadau arbenigol yn eich ysbrydoli chi ac y cewch yno rywbeth sy'n taro i'r dim ar gyfer eich priodas.

D.S. Os hoffech chi gael gwahoddiadau dwyieithog, mae hyn ar gael drwy argraffu ar ddwy ochr y cerdyn.

1. Mwyar Duon

Mae'r dyluniad hwn sydd â mwyar duon yn thema yn deillio o batrwm Art Nouveau. Gellir newid y lliw yn ôl eich dymuniad.

Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy

Redoute Wedding Card

2. Coeden Geirios

Ar y cerdyn blodeuog, trawiadol hwn gwelir blodau'r goeden geirios.

Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy

Redoute Wedding Card

3. Verneuil

Daw'r dyluniad hwn o archif yr arlunydd blodau Ffrengig M.P. Vermeuil.

Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy

Redoute Wedding Card

4. Y Cwlwm Celtiaidd

Dyma ddyliad sy'n cynnwys cwlwm Celtaidd traddodiadol.

Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy

Redoute Wedding Card

5. Eurflodau

Dyluniad o Tseina gydag eurflodau (chrysanthemums). Gellir newid lliw y cefndir yn ôl eich dymuniad.

Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy

Redoute Wedding Card

6. Amlinelliad Addurniadol

Ceir ymyl o ddyluniad ysgafn dan ddylanwad y Mudiad Celf a Chrefft. Gellir newid y lliw fel y dymunwch.

Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy

Redoute Wedding Card

7. William Morris

Dyluniad trawiadol gyda gwaith William Morris.

Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy

Redoute Wedding Card

8. Aachen

Seiliwyd ar ddyluniad gan Friedrich Fischbach (1883). Gellir newid y lliw i gyd-fynd â'ch cynlluniau.

Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy

Redoute Wedding Card

9. Blodau

Dyluniad urddasol, minimalaidd. Gellir newid y lliwiau os dymunwch.

Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy

Redoute Wedding Card

10. Llygaid y Dydd

Gellir personoli lliw y patrwm llygad-y dydd ynghyd â phrif-lythrennau'ch enwau.

Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy

Redoute Wedding Card

11. Melange d'Archeologie

Daw'r dyluniad ar gyfer y cerdyn hwn o Melange d'Archeologie

Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy

Redoute Wedding Card

12. Gwanwyn

Dyma'r cerdyn perffaith ar gyfer priodasau'r gwanwyn. O archif Pierre-Joseph Redouté.

Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy

Redoute Wedding Card

Dyluniadau pwrpasol

Mae’n bosib ichi gael gwahoddiadau ayb. i gydweddu â’r blodau yr ydych wedi’u dewis ar gyfer eich diwrnod arbennig.Dewch i drafod eich syniadau gyda ni.  Hoffem chwarae ein rhan wrth greu diwrnod priodas perffaith ichi.

Cysylltwch â ni yma am fanylion pellach