Y Casgliad Boglynnog
Aur ac Arian cheinder
Gallwn greu deunydd eich priodas â boglynwaith aur neu arian ar gerdyn gwyn neu hufen golau, gyda dalen fewnol ac amlen sy’n cydweddu.
Mae gwead y clymau Celtaidd yn symbol o gariad diddiwedd a dyma ychydig yn unig o’r patrymau niferus a gynigir – rhai Celtaidd, rhai addurnol, a rhai â phatrwm blodau.
Ceir dewis o bump math o lythrennu boglynnog a gellir creu’r ddalen fewnol i gyfateb i’ch dewis.
Trwy ddefnyddio ffurfdeip Celtaidd hardd gallwn hefyd gynhyrchu cardiau sydd â llythrennau cyntaf eich enwau mewn boglynwaith addurnol aur neu arian arnynt.
Dyluniad 1
Mae’r cerdyn clasurol hwn yn dangos dwy galon ynghlwm, mewn boglynwaith aur ar gerdyn lliw hufen.
Mae dalen fewnol ac amlen sy’n cydweddu yn dod gyda phob cerdyn. Yma, mae’r llythrennau boglynnog yn yr arddull Romantic ond cewch ddewis o’r arddulliau niferus sydd yn ein casgliad.
Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy
Dyluniad 2
Mae’r cerdyn hwn sydd â seiliau hanesyddol a rhamantus yn dod o’r casgliad Celtaidd o wahoddiadau priodas.
Mae’r boglynwaith mewn aur ar gerdyn gwyn a defnyddir yma y ffurfdeip cain Papyrus.
Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy
Dyluniad 3
Mae’r cerdyn hwn, a nodweddir gan symbol traddodiadol Celtaidd, yn cael ei wneud gan ddefnyddio boglynwaith arian ar gerdyn lliw hufen - cyfuniad eithaf anarferol.
Mae’r llythrennu yn ffurfdeip cain Papyrus ond cewch ddewis unrhyw gyfuniad o liwiau ar gyfer y boglynwaith a gwahanol arddulliau llythrennu ar gerdyn gwyn neu liw hufen.
Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy
Dyluniad 4
Ar y cerdyn gwyn hwn ceir llwy garu draddodiadol mewn boglynwaith aur ar gerdyn gwyn.
Celtic yw arddull y llythrennu ond mae’n bosibl dewis yn wahanol. Gellir dewis cael ymyl garw ar unrhyw gerdyn.
Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy
Dyluniad 5
Gwelir yma fotif traddodiadol Celtaidd eto - boglynwaith arian ar gerdyn gwyn.
Celtic yw’r ffurfdeip. Cewch ddewis arian neu aur a ffurfdeipiau gwahanol yn ôl eich dymuniad.
Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy
Dyluniad 6
Boglynwaith aur ar gerdyn lliw hufen a geir yma ar ddyluniad Celtaidd dramatig.
I gydfynd â’r awyrgylch Celtaidd, Erin yw’r ffurfdeip a ddefnyddir yma.Mae dalen fewnol ac amlen sy’n cydweddu yn dod gyda phob cerdyn.
Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy
Dyluniad 7
Mae’r ffurfdeip Champagne yn ymddangos yma gyda boglynwaith arian ar gerdyn lliw hufen, a cheir yma batrwm a sefydlir ar siâp cylch cywrain.
Gellir dewis cael ymyl garw ar unrhyw gerdyn.
Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy
Dyluniad 8
Amrywiad Celtaidd ar ddyluniad siâp calon mewn boglynwaith arian ar gerdyn gwyn.
Erin yw’r ffurfdeip yma, ond cewch newid y ffurfdeip a’r lliwiau i gydfynd â thema’ch priodas. Mae dalen fewnol ac amlen sy’n cydweddu yn dod gyda phob cerdyn.
Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy
Dyluniad 9
Efallai y bydd y calonnau blodeuog hyn â’u rhubanau’n taro i’r dim i thema’ch priodas.
Ar gael mewn unrhyw ffurfdeip a dewis o foglynwaith aur neu arian. Romantic yw’r ffurfdeip yma.
Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy
Dyluniad 10
Mae’r galon gain yma yn edrych yn drawiadol gyda boglynwaith aur ar gerdyn lliw hufen.
Champgane yw’r ffurfdeip ond, fel arfer, cewch ddewis yn ôl eich pleser.
Cliciwch ar y cerdyn i weld llun mwy
Taflenni Mewnol
Gallwn awgrymu amrywiaeth o ffurfiau geiriau neu gallwch ddewis geiriad sydd yn unigryw i chi.
Cliciwch ar y llun er mwyn gweld sampl o daflen fewnol.